A skilful adaptation of a book that crystalises the frustrations and challenges faced by individuals with dementia, their families and care staff. A book that children can read and understand, that demonstrates how dementia can affect us all, and how important it is to show empathy. It includes stunning images and snippets that mix humour with intensity.
Tybed faint ohonom ni sy’n cael ein denu at lyfr gan glawr atyniadol neu anarferol? Mae'r llyfryn bach hwn yn sicr yn perthyn i'r categori hwn. Clawr syml ond trawiadol sydd ganddo, sy’n codi gwên wrth weld yr hwyaid hen ffasiwn yn hedfan ar draws y dudalen, ond gydag un hwyaden druenus yn gwyro tuag i lawr. Mae honno'n anelu at lythrennau ar ffurf rhai'r gêm Scrabble, ond mae un llythyren ar goll, ac mae hyn yn ein harwain yn syth at yr hyn sydd ar goll yn y cyflwr dementia. Gwir yw geiriau'r isteitl, felly, “Y chwerthin a’r dagrau”.
Yn ddiweddar, mae’r pwnc dementia wedi cael ei drafod yn fwy agored, ond gan nad yw’r cyflwr yn dilyn llwybr cydnabyddedig ym mhob unigolyn mae’n anodd i gyfeillion a gofalwyr ymdrin ag ef. Mae’r amrywiaeth helaeth o deimladau a chwestiynau yn cael eu cyfleu yn ddidwyll yn y llyfryn hwn. Mae’r awdur yn dweud bod yr iaith “yn syml ac yn rhydd o jargon” ac mae hynny’n sicr yn cael ei adlewyrchu yn y cynnwys.
Trwy’r gyfres o luniau syml o ddelweddau a phrofiadau bob dydd, fe welwn effaith dementia ar yr unigolion a’r hyn sydd yn flaenllaw yn eu meddyliau. Efallai fod yr awdur wedi colli cyfle i’n hatgoffa y gellid dioddef o’r anhwylder hwn yn weddol ifanc, gan fod y rhan fwyaf o’r teimladau a’r lluniau yn ein harwain i feddwl am y to hŷn.
Yn ôl y clawr, “Dylai pawb sy’n gweithio yn y sector gofal ddarllen hwn”, ond yn fy marn i, dylid ei ddarllen gan bawb, gan y bydd pob yr un ohonom yn siŵr o gael profiad o fod mewn cyswllt â rhywun fydd yn teimlo’r hyn sy’n cael ei amlygu yn y geiriau a’r lluniau. Yn naturiol ddigon, nid oes cyfarwyddiadau sut i ddelio â’r sefyllfaoedd sy’n cael eu darlunio’n gywrain, ond mae hyn yn creu trafferth i’r darllenydd gan mai dim ond ystyried ar lefel bersonol y gallwn ei wneud, a gall hynny ein gadael mewn penbleth, efallai.
Mi fyddai’n anodd cloriannu’r dwyster a’r chwerthin mewn ychydig eiriau ond mae dwy sefyllfa yn taro deuddeg i mi, sef:
“Annwyl Dementia. Trawiad ar y galon? Wedi goroesi. Canser? Wedi ei drechu. Dementia? Yn dal wrthi.”
Mae’r ail ddelwedd yn dangos darlun trawiadol o fuwch a’r geiriau:
“Annwyl Dementia, Petai’r nyrsys ond yn gwybod fy enw, rhif fy stafell, beth dwi’n hoffi ei fwyta a’i yfed, sut dwi’n edrych. Mae ffermwr yn gwybod cymaint â hynny am ei wartheg!”
Wrth bori yn y llyfryn gwerthfawr hwn cofiwch eiriau Dr Trevor Jarvis: “Ewch ati i fyw eich bywyd yn llawn – Antur cyn Dementia.”
~Gaenor Mai Jones @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.