A Welsh adaptation by Efa Mared Edwards of Longbow Girl by Linda Davies. Located in the beautiful Brecon Beacons, where the author herself was raised, this is the story of Mari Owen, a brave and determined girl who's also an expert when it comes to the use of the longbow.
Stori sy’n gwibio o un antur i’r llall yw hon. Yng nghwmni Mari Owen teithiwn yn ôl ac ymlaen rhwng prydferthwch Bannau Brycheiniog ein dyddiau ni a Chymru’r unfed ganrif ar bymtheg. Gyda chymorth hen lyfr y daw Mari o hyd iddo mewn coedwig ger ei chartref, mae’n teithio’n ôl i gyfnod Harri VIII er mwyn unioni cam a wnaethpwyd ag aelod o’i theulu bryd hynny, a cham a allai gael effaith andwyol ar ei bywyd hi a'i theulu hefyd.
Mae’n anodd peidio â hoffi Mari. Mae’n ddewr, yn benderfynol, yn annibynnol, yn ffyddlon ac yn gallu saethu bwa hir a marchogaeth gyda chryn grefft. Arwres fodern yw hi ac mae'n gymeriad i’w edmygu. Hi yw etifedd traddodiad sy’n ganrifoedd oed, sy’n rhoi fferm Nanteos yn eiddo i’r teulu Owen, ar yr amod bod aelod o’r teulu yn addo amddiffyn y goron gyda’r bwa hir. Ond mae’r etifeddiaeth honno wedi bod dan fygythiad sawl gwaith dros y canrifoedd, gan gynnwys yng nghyfnod Mari. A all yr hen lyfr a’i gyfrinach, tybed, fod yn fodd i warchod yr etifeddiaeth honno?
Mae’r ffin rhwng ddoe a heddiw yn denau yn y llyfr a dyna ran o’r apêl. Nid Mari yw’r unig un sydd wedi etifeddu cymeriad a thiroedd ei chyndeidiau. Yn y ddau gyfnod mae yna wragedd doeth sy’n medru trin perlysiau a'u defnyddio at bwrpas meddygol, arglwyddi barus, a milwyr sy’n benderfynol o amddiffyn eu tiroedd. Mae pwysau hanes yn drwm ar aml un o’r cymeriadau. Dyna pam mae James de Courcy, cyfaill pennaf Mari, mor ddiddorol. Er ei fod yn ail pendant i Mari yn y stori, mae ei ffyddlondeb tuag ati, a’i ddyhead i dorri ei gŵys ei hun, yn ei wneud yn gymeriad deniadol.
Mae hon yn nofel lawn tensiwn a chyffro, wrth i Mari a James wynebu heriau a pheryglon mawr yn y presennol a’r gorffennol.
~Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.