Autobiography of talented pop star Non Parry from the hugely popular pop group Eden, and a book which goes behind the scenes of the glamorous pop scene and tackles mental health issues in a refreshingly honest way. Non also talks about her husband, comedian Iwan John's illness and the effect of waiting for a kidney transplant on the whole family.
Dyma gyfrol onest a gafaelgar sy’n ymdrin â phroblemau dirfawr ond sy'n gwneud hynny mewn ffordd syml a hawdd ei darllen. Yn ogystal â bod yn hunangofiant, yn fy marn i mae hefyd yn llyfr therapi ac yn bortread o onestrwydd, gan roi cyflwyniad i ni o deulu arbennig.
Mae’r darlun yn berthnasol i’n cyfnod ac mae'n rhaid cyfaddef nad oeddwn am ollwng y llyfr ar ôl dechrau darllen – fe lifai'n rhwydd, ac mae'r daith yn un emosiynol, gafaelgar a grymus.
Mae’r iaith yn fodern gyda thipyn o regi ond rhywfodd mae mor naturiol rydych yn ei derbyn. Dwi'n credu bod y llyfr yma'n mynd i gynorthwyo nifer o bobl eraill i deimlo yn fwy 'normal' (beth bynnag yw hynny), ac i fedru ymdopi gydag anawsterau, boed yn llais yn eich pen, iselder, diffyg hyder neu orbryder. Mae yna gynghorion syml a defnyddiol i bawb, megis 'peidiwch â sbwylio dydd Sul yn poeni am ddydd Llun'.
Mae'r ffaith fod Non a grŵp Eden wedi bod mor boblogaidd dros y blynyddoedd, a gallu Non, yn benodol, i berfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr, er gwaethaf ei phryderon, yn rhywbeth yr ydym yn ei edmygu'n fawr. Mae hanes ei theulu hefyd yn ein harwain o’r llon i’r lleddf, ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd goddefgarwch a thynerwch. Darllenwn am salwch ei gŵr Iwan John, ac am effaith aros am lawdriniaeth ar y teulu cyfan.
Mae ambell ddisgrifiad yn gafael yn y dychymyg, e.e. 'Ymlaen i heddiw, ac er ei fod o’n RILI anodd i gredu pan dach chi’n sgrolio drwy Facebook, mae’r ymennydd dair gwaith yn fwy na mae o angen bod.' Mae hyn yn dilyn cymhariaeth ddoniol iawn rhwng defaid a phobl!
Mae'r lluniau hefyd yn ein harwain ar daith gan ddechrau gyda Non Parry yn ferch fach, yna ei chyfeillgarwch gydag Emma a Rachael, ei theulu, priodi a dod yn llysfam ac yna’n fam, a’r enwogion sy’n rhan o’i bywyd, ynghyd â thoriadau papur newydd. Mae dylanwad ei chyfnither Caryl Parry Jones arni yn atgyfnerthu pa mor arbennig ydyw'r teulu yma a’u cefnogaeth i'w gilydd.
Diolch, Non, am agor dy galon ac am rannu cymaint o brofiadau trwy gyfrwng y llyfr arbennig yma.
~Tegwen Morris @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.