A collection of tales about some of Wales's greatest heroes, including St David, Owain Glyndŵr, Black Bart etc. The stories have been collected and written by Tudur Dylan Jones, and include beautiful illustrations by the artist Brett Breckon. A beautiful gift book.
Mae’r gyfrol hon yn drysor i’r eithaf ac yn gyfoeth o hanesion arwyr Cymru. Heb os nac oni bai, mae hon yn gyfrol i’w rhoi ar silff bob Cymro neu Gymraes ifanc. Mae’r casgliad o straeon wedi eu hysgrifennu gan Tudur Dylan Jones ac wedi eu darlunio gan Brett Breckon, ac mae'r gyfrol yn gronicl hardd o fywydau rhai o ddewrion mwyaf y genedl.
Nid dim ond hanes a ffeithiau a geir yma, ond rhoddir ongl newydd i nifer o’r straeon. Cawn glywed hanes nawddsant Cymru a'r cymeriadau eraill o’u genau nhw eu hunain. Mae hyn yn rhoi osgo ffres a newydd i hen hanes ac i’r deg cymeriad sydd wedi eu cynnwys yma. Ond mae'r awdur yn mynd yn bellach na hynny. Cawn glywed hanes y Dywysoges Nest ar ffurf penillion – dyna braf yw crynhoi ei stori hi trwy gyfrwng barddoniaeth.
Yr hanesion hynod, y cymeriadau o gig a gwaed a'r lleoliadau llwm a llewyrchus o un pen i’r wlad i’r llall sydd yn gwneud y llyfr hwn yn un arbennig, ond rhaid hefyd edrych ar lithrigrwydd yr iaith drwyddi draw - nid yw'n henffasiwn, ac mae’n sicr yn diddanu plentyn.
Dyma wers hanes ar ei newydd wedd. Mae’r llyfr yn fwrlwm o helyntion a chymeriadau i’w dathlu ac yn rhai a newidiodd Cymru am byth.
~Llinos Griffin @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.