Man U is perhaps the world's best known football club and thousands of supporters live in Wales. But how many of them know that Newton Heath was the club's original name?
How many of them can name the Welshmen who played for the club during the last century and earlier?
In this book you will get to know some amusing stories about famous characters such as Billy Meredith, Mickey Thomas, Mark Hughes, Ryan Giggs and the other Welshmen who have played for the club.
You will read about the relationship between Jimmy Murphy and Matt Busby and the way in which Alex Ferguson looked after Ryan Giggs.
Whether you're a Man U supporter or not, this is a book for every Welsh man and woman who loves football.
Man U efallai ydy clwb pel-droed enwoca'r byd ac mae miloedd o gefnogwyr yn byw yng Nghymru.
~Publisher: Y Lolfa
Mae’n rhaid imi ddatgan diddordeb ar ddechrau'r adolygiad hwn. Man U yw fy nhîm i, a hynny ers ymhell dros hanner canrif. Gallai hyn fod yn newydd da neu’n newydd drwg i awdur cyfrol fel hon: newydd da am fod gen i ddiddordeb ysol yn y pwnc dan sylw, ond newydd drwg am y byddai fy siomedigaeth gymaint â hynny’n fwy pe na theimlwn ei fod wedi gwneud cyfiawnder â’m harwyr.
Er mor ddiamwys yw’r teitl, doeddwn i, serch hynny, ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth gydio yn y gyfrol fechan hon a argraffwyd mewn print lled fras. Un rheswm am fy ansicrwydd oedd y ffaith ei bod hi’n rhan o’r gyfres Stori Sydyn. Yn gam neu’n gymwys, tybiwn mai ar gyfer pobol - yn enwedig bechgyn yn eu harddegau cynnar - nad oedd yn hoffi darllen y bwriadwyd y gyfres. Dwysáu wnaeth fy amheuon pan ddarllenais fod y ‘prosiect Stori Sydyn/Quick Reads yn fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru’. Datgelir ymhellach bod ariannu’r teitlau ‘yn rhan o’r Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru’.
Nid ydwyf yn arbenigwr o fath yn y byd ar y dulliau mwyaf effeithiol o ddenu’r anfoddog i ddarllen. Ond oni fyddai defnydd helaeth o luniau yn hwyluso’r ymdrech? Cyfrol heb ffotograffau yw hon, ac eithrio’r ddau lun ar y clawr o Ryan Giggs a Mark Hughes. Er i mi fwynhau arddull ysgrifenedig Gwyn Jenkins mae gen i fy amheuon a fydd hi’n ddigon hygyrch yng ngolwg y rhai hynny nad yw darllen yn weithgarwch arferol iddynt.
Sylweddolaf mai rhyw fath o belten lawchwith yw dweud y bydd y gyfrol wrth fodd Cymry llengar sy’n gefnogwyr Man U. Ai sgorio ymhlith y llengar oedd y bwriad? Rydw i’n gwbl dawel fy meddwl bod pob un Cymro o unrhyw bwys a fu’n gysylltiedig â Newton Heath (y clwb gwreiddiol) a Manchester United rhwng 1878 a 2011 yn cael eu cofnodi rhwng y cloriau, a hynny mewn dull difyr dros ben. Yn ogystal â Giggs a Hughes, mae lle teilwng yma i Billy Meredith o’r Waun, seléb cyntaf y gêm broffesiynol, a dirprwy tra dylanwadol y rheolwr Matt Busby, Jimmy Murphy o’r Rhondda. Crybwyllir hefyd chwaraewyr enwog ac anenwog a fethodd â’i gwneud hi yn Old Trafford fel Robbie Savage a Deiniol Graham. Hyd yn oed os ydi o’n gor-ddweud, pob clod i’r awdur am haeru y bydd Mark Hughes yn cael ei gofio gan gefnogwyr Man U a Chymru am y llinell a lefarodd mewn pennod o C’mon Midffîld.
~Vaughan Hughes @ www.gwales.com
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.