Aderyn Brau traces the story of Megan as she is forced to move from the countryside to the city of Swansea, and the problems which arise as a result - changing school, parents splitting up, strange area. Gradually, however, she realises that things are not all bad as she prepares for the school eisteddfod, creates new relationships and reveals her mother's hidden secret.
Mae Aderyn Brau yn dilyn hanes Megan wrth iddi orfod symud o gefn gwlad i ddinas Abertawe, a'r problemau sy'n codi yn sgil hynny - newid ysgol, rhieni'n gwahanu, ardal anghyfarwydd. Ond yn raddol mae'n sylweddoli nad yw pethau'n wael i gyd wrth iddi baratoi ar gyfer eisteddfod yr ysgol, creu perthnasau newydd a datgelu cyfrinach mae ei mam wedi cadw oddi wrthi.
~Publisher: Y Lolfa
Un o nofelau yng Nghyfres yr Onnen sydd wedi'u hanelu at ddarllenwyr da 913 oed yw Aderyn Brau ac roedd hi’n fraint ac yn fwynhad pur i ddarllen nofel gyntaf yr awdures ifanc hon o Aberystwyth. Mae’n nofel afaelgar sydd wedi’i saernio’n gelfydd. Mae’r iaith yn goeth ac, yn bwysicach fyth, mae iddi stori dda, fyrlymus sy’n siŵr o afael yn nychymyg darllenwyr ifainc.
Dros nos, caiff byd bach delfrydol Megan yng nghefn gwlad Ceredigion ei droi ben i waered wrth i’r ferch fach naw mlwydd oed orfod dygymod â thor-priodas ei rhieni. Yn sgil ymadawiad annisgwyl ei thad, gorfodir Megan a’i mam i symud at ei mamgu yn Abertawe i fyw ac mae gorfod ymdopi â’r bywyd dinesig, newydd hwn yn dipyn o newid byd. Cafodd ei bywyd ei ysgwyd i’w wraidd yn sgil ymadawiad dirybudd ei thad.
Merch fach ddryslyd ac unig yw Megan. Nid oes ganddi agosatrwydd ysgol fach Llanfair na’i ffrind bore oes, Leri, a gwahanol iawn yw diddordebau disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Maes Tawe.
Mae’n hunllef lwyr iddi ond daw achubiaeth yn sgil yr un nod fawr sydd ganddi, sef ennill y Gadair yn eisteddfod ei hysgol newydd. Caiff lonydd i ysgrifennu ei stori yn sied Arthur Morris, drws nesaf, ac yno yn yr ardd, daw’r ddau ar draws aderyn brau sydd wedi’i glwyfo. O gael gofal ac ymgeledd, caiff yr aderyn bach hedfan yn rhydd a wynebu bywyd unwaith eto, a dyma’n union yr hyn sy’n digwydd i’n prif gymeriad hoffus ni erbyn diwedd y nofel.
~Menna Evans @ www.gwales.com
Related Books
Please note that ePub files can now be opened on Kindle.
This website uses cookies. By continuing to use this website you are giving consent to cookies being used. For more information on how you can disable them, visit our Privacy and Cookie Policy.
Strictly Necessary Cookies
Strictly Necessary Cookie should be enabled at all times so that we can save your preferences for cookie settings.
If you disable this cookie, we will not be able to save your preferences. This means that every time you visit this website you will need to enable or disable cookies again.