{"product_id":"9781913996222","title":"Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd","description":"Os bu adfywiad a bwrlwm newydd mewn unrhyw faes yn ddiweddar, diddordeb mewn enwau lleoedd yw hwnnw. A pha ryfedd? Mae hen enwau lleoedd yn stordai cyfoethog o hanes a lliw iaith, a bro, a chenedl. Ond er mwyn agor y gist drysor yn llawn a datgelu gwir werth ei chyfoeth, rydym ni angen allwedd, a go brin y cewch chi allwedd well na’r gyfrol hon.\n\nOnd dyma rybudd cyn mynd gam ymhellach. Mae hwn yn llyfr peryglus oherwydd ei fod yn llawer haws ei agor na'i gau. Llyfr i bori ynddo yw hwn, yn anad dim, ond mae ehangder a thrylwyrdeb ysgolheictod Glenda Carr yn cydio ynoch chi, heb os, a'ch tynnu i ddarllen mwy a mwy ohono. Efallai y byddwch wedi troi at y llyfr i olrhain tarddiad enw penodol megis 'Nantlle' neu 'Dinlle', neu 'Bodegroes'; ond bydd rhoi'r llyfr naill ochr heb fodio drwyddo am ystyr 'Murcwpwl', 'Crug', neu 'Gwag y Noe' hefyd yn dipyn o gamp. Melltith o beth yw cywreinrwydd - a diolch amdano!\n\nOs oes mwy nag un ddamcaniaeth am darddiad neu ystyr enw, yna, fel pob ysgolhaig gwerth ei halen, nid oes gan Glenda Carr ofn eistedd ar y ffens o bryd i'w gilydd, a chawn ganddi bob tarddiad (rhesymol) posib i gefndir yr enw hwnnw. Mae 'Dyffryn Nantlle' yn un enghraifft. Ond, hefyd, fel pob ysgolhaig gwerth ei halen, os oes dehongliad sy'n taro'r awdur fel un sydd yn gryfach na'r farn sefydliadol neu gonfensiynol, does arni ddim ofn nodi hynny chwaith.\n\nMae hon yn gyfrol i'r lleygwr a'r darllenydd cyffredin, yr ymchwilydd a'r myfyriwr fel ei gilydd. Yma ceir ffynhonnell wybodaeth a diddanwch rhwng dau glawr (peth go brin ynddo'i hun, efallai), a llyfr hanfodol i'w gael ar bob silff lyfrau o werth, er na fydd y gyfrol hon yn treulio ryw lawer o'i hamser ar y silff honno.","brand":"Glenda Carr","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51939746939144,"sku":"9781913996222","price":10.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781913996222_1235be96-a965-4b06-8b18-b9a42c507b9d.jpg?v=1752245285","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781913996222","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}