{"product_id":"9781906587239","title":"Cyfres Anturiaethau Tintin: Cawl Erfyn Efflwfia","description":"Mae digwyddiadau rhyfedd yn taro Mabelfyw Bach, plasty’r Capten Hadog. Mae yntau a Tintin felly yn penderfynu galw heibio i labordy’r Athro Ephraim R Efflwfia sydd gerllaw. Mae Efflwfia wedi bod yn gweithio ar ddyfais nerthol sydd wedi denu sylw gwasanaethau cudd Syldafia a Brodwria. Mae’r ddwy wlad yn elyniaethus tuag at ei gilydd ac yn awyddus i addasu dyfais Ephraim R Efflwfia yn arf rhyfel i gael y gorau o’u gelynion. Mae hyn yn rhoi bywyd yr Athro penchwiban mewn dybryd beryg wrth iddo gael ei gipio rownd y rîl gan y naill ochr a’r llall. Wrth i Tintin a’r Capten Hadog orfod mynd dros ben llestri i sicrhau diogelwch eu cyfaill o wyddonydd, daw’n amlwg i’r Athro Ephraim R Efflwfia bod ei ddyfeisgarwch wedi mynd yn rhy bell.\n\nCyhoeddwyd stori Cawl Erfyn Efflwfia yn gyntaf ym 1956 fel sylw ar y gwrthdaro rhyngwladol rhwng y Gorllewin a’r bloc Comiwnyddol, ac mae’n adlais o’r twf mewn poblogrwydd yn y genre ysbïo yn y cyfnod. Ystyrir mai’r llyfr hwn yw campwaith mwyaf Hergé. Mae’r stori yn un grefftus tu hwnt, a realaeth y gwaith darlunio yn gyforiog o gyfeiriadau gweledol at leoliadau go iawn ar draws Ewrop. Yn yr antur hon can ymddangosiad cameo gan Hergé yn un o’r golygfeydd o‘r torfeydd y tu allan i gartref y Capten, Mabelfyw Bach.","brand":"Hergé","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492969574664,"sku":"9781906587239","price":6.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781906587239.jpg?v=1770799238","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781906587239","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}