{"product_id":"9781906396893","title":"Llyfr Gwyn","description":"Dyma daith yr awdur a'r ysgolhaig toreithiog, o'i fagwraeth ym Mlaenau Ffestiniog yn yr 1930au a’r 1940au, ymlaen i yrfa academaidd ddisglair fel aelod o staff Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor nes cyrraedd, yn 2006, yn Fardd Cenedlaethol Cymru. Pryd gychwynnodd diddordeb Hoff Fardd Cymru mewn ysbrydion? Sut y daeth mythau a symbolau mor greiddiol i'w waith fel bardd ac awdur rhyddiaith, a sut y bu i ffilmiau cowbois bore oes esgor ar ei waith arloesol ym maes 'llunyddiaeth' – barddoniaeth a ffilm? A sut y bu i fagu plant a dod yn daid ailgynnau'r teimlad o fod yn blentyn unwaith eto ynddo a beth oedd dylanwad hyn ar ei gerddi? Mae Gwyn Thomas yn nodedig fel bardd a chanddo arddull agos atoch, ac mae'r un agosatrwydd i'w deimlo rhwng cloriau'r gyfrol hon.","brand":"Gwyn Thomas","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492969476360,"sku":"9781906396893","price":19.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781906396893.jpg?v=1770799233","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781906396893","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}