{"product_id":"9781906396428","title":"Englynion y Genedlaethol 1900-1999","description":"Dyma gyfrol sy'n rhoi llwyfan i holl gyfoeth traddodiad yr englyn yn y Brifwyl: traddodiad a esgorodd ar drysorau megis 'Blodau'r Grug' Eifion Wyn, 'Y Llwybr' J.T. Jones, 'Y Gorwel' Dewi Emrys a 'Cwlwm' T. Arfon Williams. O gyfnod aur y beirdd-bregethwyr i binaclau cynhyrchiol megis Eisteddfod Genedlaethol Caerffili, 1950, pan gafwydd 347 o gynigion ar yr englyn ac ymlaen wedyn at drafodaethau ac arbrofi y blynyddoedd mwy diweddar, mae'r awdur yn cyflwyno hanes cenedlaethau o feirdd ac yn codi cwr y llen ar y 'cythraul barddoni'. Dyma gyfrol gan un sydd wedi ymhyfrydu mewn casglu englynion ers blynyddoedd lawer, cyfrol sy'n rhannu hanesion ac yn croniclo hanes ein diwylliant.","brand":"Dafydd Islwyn","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492969279752,"sku":"9781906396428","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781906396428.jpg?v=1770799227","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781906396428","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}