{"product_id":"9781904554172","title":"Ysgrifau Beirniadol XXXI","description":"Dyma’r gyfrol gyntaf o Ysgrifau Beirniadol dan olygyddiaeth Tudur Hallam ac Angharad Price. Mae hon, fel ei rhagflaenwyr, yn cynnwys amrywiaeth o erthyglau beirniadol sydd yn cynnig golwg newydd a ffres ar lenyddiaeth a diwylliant Cymru a thu hwnt. Ymhlith pynciau’r gyfrol hon y mae’r canlynol:\n●\tcymharu llythyrau Saunders Lewis a Kate Roberts â gohebiaeth George Sand a Gustave Flaubert\n●\tcyflwyno ‘Marwnad Owain ab Urien’ i ddisgyblion chweched dosbarth\n●\ttrafod y syniad o ‘hanfod’ mewn llenyddiaeth Gymraeg gan roi sylw penodol i ddatblygiad tri bardd cyfoes\n●\tarchwilio’r ‘gofod hybrid’ yn un o gerddi Dafydd ap Gwilym\n●\tgosod Dic Jones mewn perthynas â swydd y poet laureate yn Saesneg\n●\tedrych ar rôl genedlaetholgar y cyfieithiadau Saesneg o waith Daniel Owen\n●\tail-asesu’r syniad o Theatr yr Absẃrd\nMae’r cyfranwyr yn gyfuniad o enwau newydd ac enwau beirniaid llenyddol sefydledig mewn sawl disgyblaeth wahanol, sef Manon Mathias, Marged Haycock, Tudur Hallam, Angharad Naylor, Peredur Lynch, Adam Pearce, Hannah Sams.\nCyflwynir y rhifyn hwn i'r Athro M Wynn Thomas, ac mae cyfweliad dadlennol rhyngddo ac un o’r golygyddion yn cloi’r gyfrol.","brand":"Gwasg Gee","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492959744264,"sku":"9781904554172","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781904554172.jpg?v=1770799324","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781904554172","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}