{"product_id":"9781904554134","title":"Ysgrifau Beirniadol XXX","description":"Dyma’r ddegfed gyfrol ar hugain o Ysgrifau Beirniadol, y gyfres flaengar o drafodaethau llenyddol a ymddangosodd gyntaf yn 1965 dan olygyddiaeth y diweddar Athro J. E. Caerwyn Williams. Unwaith eto, mae’r cynnwys mor amrywiol ag erioed: o emynau Ann Griffiths a’u darllenwyr i ganeuon Edward H. Dafis a’u cymheiriaid; o gyfweliad gyda Wiliam Owen Roberts, awdur y nofel epig Petrograd, i gyfweliad gydag Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban, ynghylch arwyddocâd R.S. Thomas; ac o apocalyps Yma o Hyd Angharad Tomos i alaeth beirdd Cymru yn 1979. Ac i ddathlu pen-blwydd diweddaraf y gyfres, ceir rhestr\ngynhwysfawr o holl gynnwys y gyfres hyd yn hyn.\nY cyfranwyr yw Simon Brooks, T. Robin Chapman, Guto Dafydd, Jason Walford Davies, Hedd ap Emlyn, Peredur Lynch a Pwyll ap Siôn.\nGolygir y gyfres gan yr Athro Gerwyn Wiliams o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.","brand":"Gwasg Gee","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492959777032,"sku":"9781904554134","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781904554134.jpg?v=1770799324","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781904554134","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}