{"product_id":"9781904554127","title":"Stryd y Glep","description":"Mae gwaith Kate Roberts yn syrthio i ddau gyfnod pendant, gyda bwlch o ddeuddeng mlynedd rhyngddynt.  Cyhoeddwyd Stryd y Glep yn 1949, y gyntaf o nifer helaeth o gyfrolau a ysgrifennodd yn ystod yr ail gyfnod, a adnabyddir fel ‘cyfnod Dinbych’. Nofel yw hon sy’n dilyn trigolion un stryd dros gyfnod o rai misoedd mewn un o’r blynyddoedd yn arwain at yr Ail Ryfel Byd.\nArgyfwng yw thema ganolog y nofel, a chyflwynir popeth ar ffurf dyddiadur drwy lygaid hen ferch o’r enw Ffebi Beca. Nid oes sôn am ddigwyddiadau mawr y byd fel y cyfryw ond mae’r awdur wedi llwyddo i greu casgliad o gymeriadau credadwy : Ffebi ei hun, Besi ei chwaer, John ei brawd di-sut, Enid Rhodri sy’n gweithio yn siop John, a Doli ei chyfnither arwynebol, ymysg amryw eraill.\nMae’r nofel yn frith o sylwadau craff a ffraeth, ac mae ymysg y mwyaf meistrolgar a ysgrifennwyd yn y Gymraeg.","brand":"Kate Roberts","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52381501128968,"sku":"9781904554127","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781904554127.jpg?v=1770799380","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781904554127","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}