{"product_id":"9781850492467","title":"Cyfres Bara'r Bywyd: 28. Diarhebion","description":"Mae’r llyfryn hwn yn un o gyfres sy’n rhannu llyfrau’r Beibl yn unedau hwylus ar gyfer darlleniadau dyddiol, ac yn cynnig nodiadau esboniadol a defosiynol ar bob darn.\nMae defnydd posibl y llyfrynnau hyn yn helaeth iawn. Er enghraifft, gellir defnyddio’r nodiadau:\n• fel arweiniad ar gyfer myfyrdod personol cyson neu achlysurol. (Ymhob llyfryn, ceir digon o ddarlleniadau dyddiol ar gyfer deufis llawn.) \n• fel darlleniadau ar gyfer defosiwn teuluaidd.\n• fel esboniad syml a darllenadwy ar un o lyfrau’r Beibl.\n• fel canllawiau ar gyfer dosbarthiadau Beiblaidd neu ddosbarthiadau Ysgol Sul.\n\nAc ar ben hyn oll, fe dyf y gyfres o lyfryn i lyfryn i fod yn esboniad syml, clir a defosiynol, ar y Beibl cyfan.\nDyma fuddsoddiad ysbrydol gwerthfawr i’r holl deulu.","brand":"Gwyn Davies","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492658409736,"sku":"9781850492467","price":4.5,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781850492467.jpg?v=1770799297","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781850492467","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}