{"product_id":"9781850492436","title":"Diwinydda Ddoe a Heddiw","description":"Mae’r llyfr Diwinydda Ddoe a Heddiw yn gasgliad o ysgrifau yn ymdrin â phynciau amrywiol o ddiddordeb diwinyddol a beiblaidd. Er bod sawl un o’r ysgrifau yn dyst i ddiwinydda a fu, maent yn ffrwyth ystyriaeth gyfredol.  \nYmhlith yr ysgrifau ceir:\n- trafodaeth ar agwedd ar eiriadur Thomas Charles, a gyhoeddwyd yn wreiddiol dau gan mlynedd yn ôl. (Bydd yr ysgrif o ddiddordeb yn wyneb y ffaith ei bod hi hefyd eleni yn ddau gan mlynedd oddi ar ordeinio gweindogion cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd, bellach Eglwys Bresbyteraidd Cymru.)\n- ymdriniaeth ar gyfraniad y Gweithgor Efengylaidd i argraffiad diwygiedig Y Beibl Cymraeg Newydd, pwnc sydd heb ei drafod cyn hyn.\n- trafodaeth ar ddylanwad syniadau a dulliau’r Americanwr Charles Finney ar ddiwygiad 1858-60 yng Nghymru.\n- trafodaeth ar berthynas yr Annibynwyr a Chyffesion.\n\nY 5 ysgrif a geir yn y gyfrol fydd (ynghyd a’r awduron):\n- Athrawiaeth yr Ysgrythur yng Ngeiriadur Thomas Charles – Geraint Lloyd\n- Yr Annibynwyr Cymraeg a Chyffesion – Noel Gibbard\n- Y Beibl Cymraeg Newydd: Cyfraniad Y Gweithgor Efengylaidd – Iwan Rhys Jones\n- Adfywiad 1858-60 – Gwyn Davies\n- Hanes Cynhadledd y Bala\/Dylanwad Martyn Lloyd-Jones – Eryl Davies","brand":"Eryl Davies","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492694946056,"sku":"9781850492436","price":15.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781850492436.jpg?v=1770799297","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781850492436","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}