{"product_id":"9781847719980","title":"Cyfres y Dderwen: Y Ddinas ar Ymyl y Byd","description":"Hanner canrif ers yr Argyfwng, deuddeg mlynedd ers yr Haint, mae natur wedi troi ben i waered a'r byd wedi troi'n anialwch uffernol. Mae'r bobl sydd ar ol wedi eu corlannu fel defaid yn y Ddinas ar Ymyl y Byd.\nTu mewn i Wal y Ddinas mae pawb o dan ofal y Ceidwad ac yn byw mewn ofn rhag y Rhwydwyr. Ond beth sydd y tu hwnt i'r Wal a beth yw cyfrinach dywyll yr awdurdodau? Lawr ar y strydoedd mae rhai yn barod i sefyll yn erbyn y llanw, ond pwy yw'r ferch a marc y cylch ar ei hysgwydd?\nDyma nofel weledol ei naws, sy'n llawn tensiynau, cyffro ac uchafbwyntiau. Mae'n stori sy'n symud yn gyflym ac ynddi ceir elfennau arallfydol, cymeriadau cryf, plot byrlymus a throadau annisgwyl sy'n taro deuddeg.","brand":"Arwel Vittle","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51939726983432,"sku":"9781847719980","price":5.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781847719980_b960f3de-cf0f-4b6f-80db-b8af6c1baad7.jpg?v=1752245256","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781847719980","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}