{"product_id":"9781847717504","title":"Brodyr a Chwiorydd","description":"Cyfrol o straeon byrion cyfoes sy’n archwilio’r haen denau iawn sy’n cadw cymdeithas yn wâr.\n\nA ninnau’n clywed yn feunyddiol ein bod ar ddibyn apocalyptaidd i’r economi byd-eang archwilir y cyfnod arswydus hwn drwy dwrio i hanesion unigolion difyr, gan amlaf â rhyw berthynas deuluol rhyngddynt.\n\nYn amlach na pheidio ceir elfen dywyll i’r straeon ac fe’n hanesmwythir yn aml gan ddawn yr awdur i daflu’r darllenydd oddi ar ei echel gyfforddus.\n\nYn hanu o Dregaron, Ceredigion, bu Geraint Lewis yn ysgrifennu’n llawn amser am bron i ddeng mlynedd ar hugain, yn bennaf ar gyfer y teledu. Mae e’n aelod o dîm ysgrifennu’r opera sebon Pobol y Cwm. Hon yw ei bumed gyfrol o ryddiaith a chynhyrchwyd saith o’i ddramâu theatr ar hyd a lled Cymru.\n\nMae ef hefyd yn actio yn achlysurol, gan gynnwys rhan Sianco yn y ffilm deledu Martha, Jac a Sianco. Mae e bellach yn byw yng Nghaerdydd.","brand":"Geraint Lewis","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492632129800,"sku":"9781847717504","price":8.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781847717504.jpg?v=1770799258","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781847717504","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}