{"product_id":"9781847717221","title":"Geraint Lloyd - Y Dyn Tu Ôl i'r Llais","description":"Mae Geraint yn un o'r bobl fuodd ddigon lwcus i gael byw a gweithio yng Ngheredigion ar hyd ei oes. O weithio mewn siop, garej ac yna ym myd y cyfryngau bu'n ddigon lwcus i gael modd i fyw yn ei filltir sgwâr.\n\nBu’n ymwneud llawer â’r byd ralïo pan oedd yn ifanc ac yna aeth ymlaen i rasio 4 x 4s, gan gynrychioli Cymru yn y gamp. Roedd hefyd yn gyfrifol am ddechrau clwb ralïo yn Aberystwyth yn yr 80au.\n\nBu ddigon ffodus i gael cyfle gan Radio Ceredigion i ddarlledu yn y 90au ac ers hynny mae wedi bod yn un o ddarlledwyr mwyaf poblogaidd Radio Cymru. Bu’n gyfrifol am ddechrau clwb Bois y Loris sydd â dilyniant ledled Cymru ac mae dal i ddarlledu bob nos ar hyn o bryd.\n\nMae’r gyfrol yn dadlennu llawer am fywyd cefn gwlad a’r newidiadau sydd wedi bod yn y byd darlledu ac ar Radio Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.","brand":"Geraint Lloyd","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492627312904,"sku":"9781847717221","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781847717221.jpg?v=1770799255","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781847717221","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}