{"product_id":"9781847717177","title":"Dal i Fynd","description":"Dyw Anwen ddim yn siŵr pa un sydd waethaf… magu tri o blant, bod yn gadeirydd PTA yr ysgol, neu wrando ar Rhys, ei gŵr, yn conan am ei daith lan i’r gogs i’r gwaith.\nAr yr wyneb mae Delyth yn fenyw fusnes lwyddiannus. Ond o dan yr wyneb mae’n byw am y llyfr self-help diweddara ac yn hollol paranoid am sicrhau dyrchafiad cyn iddi fynd yn rhy hen.\nFel gwraig weinidog gydwybodol mae Nia’n gwneud ei gorau i gefnogi ei gŵr. Felly, sut all menyw ffeind ymdrin ag Eirwen, y ciwrad newydd sy’n ddigon i wneud i unrhyw un golli ei ffydd?\nMae trobwynt ar ei ffordd i’r dair, ac erbyn i gylch blwyddyn fynd heibio bydd golwg go wahanol ar eu bywydau – er gwell ac er gwaeth.\nMae gan yr awdur ddawn i ddweud stori ddoniol.","brand":"Sioned Wiliam","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52010414866696,"sku":"9781847717177","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781847717177.jpg?v=1770799241","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781847717177","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}