{"product_id":"9781847716743","title":"Y Faciwî","description":"Yn Lerpwl bu yng nhganol un o’r cyrchoedd awyr mwyaf a welwyd ym Mhrydain erioed, sef Blits mis Mai 1941 pan laddwyd miloedd o drigolion Lerpwl gan ymosodiadau’r Luftwaffe. Ceir hanes Barbara’n cael ei hachub rhag tanchwa a laddodd dros 164 o bobl yn ysgol Ernest Brown, cyn cael ei symud gyda’r don o ifaciwîs a gyrhaeddodd gefn gwlad Cymru yn ystod y rhyfel.\n\nOnd cafodd gymaint o groeso yn Nhalgarreg, Ceredigion, mi benderfynodd aros ac ymgartrefu yng Nghymru, a hynny gyda John a Rachel Davies ar aelwyd Pantglas. Yn y gyfrol hon ceir darlun hyfryd o gefn gwlad Ceredigion ar ôl y rhyfel gyda disgrifiadau byw o hen arferion ar ffermydd yr ardal, o ddiwrnod lladd y mochyn i’r modd yr ymgodymwyd gyda’r rasiwns. \n\nCeir hefyd bortreadau cynnes  a hwyliog o rai o gymeriadau’r fro gan ddynes a fydd yn fythol ddiolchgar i gymuned gymdogol a chroesawgar Talgarreg.","brand":"Barbara Warlow Davies","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492626657544,"sku":"9781847716743","price":7.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781847716743.jpg?v=1770799247","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781847716743","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}