{"product_id":"9781847713285","title":"Dala'r Slac yn Dynn","description":"Bu John yn un o gewri rheng flaen Castell-nedd a Llanelli am flynyddoedd lawer, enillodd 34 cap i Gymru, ac mae’n cael ei gydnabod fel un o chwaraewyr caletaf a mwyaf cyson y gêm dros yr ugain mlynedd diwethaf. Flynyddoedd ar ôl gorffen gyda’r Sgarlets mae’n dal i fwynhau rygbi ac yn dal i chwarae i Grymych.\n\nBydd y gyfrol yn llawn straeon o’r byd rygbi amatur, yn cynnwys ei brofiadau yn rheng flaen chwedlonol Castell Nedd, ond bydd hefyd yn sôn am gyfuno ffermio â chware rygbi proffesiynol i Richmond.\n\nCeir straeon difyr tu hwnt am ei brofiadau gyda’r Sgarlets a rygbi rhyngwladol, ond bydd hefyd yn rhoi darlun gonest a chignoeth o fywyd caled fel ffarmwr yng ngogledd Sir Benfro.","brand":"John Davies gyda Wyn Gruffydd","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492657787144,"sku":"9781847713285","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781847713285.jpg?v=1770799218","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781847713285","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}