{"product_id":"9781845275686","title":"Cyfres Syniad Da: Ar Ben y Ffordd - Profiadau Ysgol Yrru Dwyfor","description":"Tybed gan bwy y cawsoch chi wersi gyrru? Efallai mai paratoi at y prawf gyrru yr ydach chi ar hyn o bryd? Profiad eithaf cynhyrfus ydi eistedd tu  ôl i lyw car am y tro cyntaf a mentro ar ddreifio eich milltir neu ddwy gyntaf erioed.\n\nI sicrhau eich bod yn medru gyrru yn gwbl ddiogel ac heb ddysgu yr un cast drwg, mae'n hanfodol mynd at hyfforddwr cymwysedig – un fydd yn eich rhoi ar ben y ffordd yn llythrennol ac sy'n gallu eich cyfarwyddo yn dawel a di-ffwdan, fel eich bod yn meithrin yr hyder a'r sicrwydd y byddwch yn yrrwr gofalus ar ein ffyrdd.\n\nYm mhentref Efailnewydd ar gyrion Pwllheli, mae hyfforddwr gyrru profiadol yn cartrefu. Bellach mae ganddo dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad hyfforddi ac yn ogystal  â hynny mae ganddo stori dda i'w hadrodd. Dewch am dro hefo Thomas Owen Williams, Ysgol Yrru Dwyfor.","brand":"Thomas Owen Williams","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492642746632,"sku":"9781845275686","price":5.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275686.jpg?v=1770799280","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275686","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}