{"product_id":"9781845275570","title":"Duw yw'r Broblem","description":"Mae hon yn gyfrol anghyffredin. Cyfrol gan ddau awdur gwahanol iawn o ran arddull a phrosesau. Ond dau Gristion sydd yr un mor rhwystredig ynglŷn  â sefyllfa crefydd yng Nghymru heddiw, ac sydd, er gwaethaf y gwahaniaeth steil sydd rhyngddynt yn digwydd dod i'r un casgliad: mai Duw yw'r broblem.\n\nMae'r ddau awdur yn dod at y pwnc yn eu ffyrdd eu hunain. Cynog Dafis yn ddadansoddiadol yn seiliedig ar brofiad ac ar ymchwil ac yn tynnu ar ddarllen eang iawn, ac Aled Jones Williams yn cynnig yr ymateb llenyddol yr ydym wedi dod yn gyfarwydd ag o erbyn hyn. I raddau mae'r ymateb llenyddol yn brawf o ddadl y naill a'r llall mai i fyd a iaith ddilys y dychymyg mae Duw yn perthyn ac nid i fynd yr un mor ddilys y rhesymeg gwyddonol. Perthyn i'r mythos ac nid i'r logos mae crefydd y milenia.\n\nMae'r gyfrol yn ychwanegiad gwerthfawr yn Gymraeg at drafodaeth fyd eang sy'n ceisio ymateb i lythrenoldeb a ffwndamentaliaeth crefydd efengylaidd, asgell dde.","brand":"Aled Jones Williams","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52294871744776,"sku":"9781845275570","price":8.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275570.jpg?v=1770799276","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275570","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}