{"product_id":"9781845275556","title":"Gwersyll Fron-goch 1916 - Y Pair Dadeni","description":"Yna y dechreuodd y Gwyddelod gynnau tân o dan y pair dadeni\nAr drothwy canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg mae'r diweddariad hwn yn cynnwys deunydd newydd i'r argraffiad a ymddangosodd ddeng mlynedd yn ôl. Yma gosodir carchariad ymron ddwy fil o Weriniaethwyr Gwyddelig yn y Fron-goch yng nghyd-destun Wythnos y Pasg 1916 a Dulyn y cyfnod. Ceir ymateb y Gwyddelod i'w halltudiaeth ynghyd ag ymateb y Cymry i'r Gwrthryfel. Esbonnir sut yr arweiniodd y carchariad at undod ysbrydol a milwrol ymhlith y Gwyddelod, amryw ohonynt gynt yn llugoer. Daethant allan o'r Pair Dadeni wedi eu hatgyfnerthu ar gyfer brwydrau'r dyfodol. Olrheinir y rhannau a chwaraeodd amryw o garcharorion y Fron-goch yn y Rhyfel Annibyniaeth a'r Rhyfel Cartref gwaedlyd a'i dilynodd ac a welodd gyn-gymrodyr y gwersyll yn troi ar ei gilydd. Olrheinir yn ogystal hanes cyn-garcharorion a chwaraeodd rannau allweddol mewn llunio Iwerddon Rydd, yn cynnwys yn arbennig Michael Collins.\n\n... un o'r cyfrolau hanes mwyaf darllenadwy.\nAn Phoblacht\n\nMae Lyn Ebenezer wedi llenwi bwlch na wnes i roi sylw iddo yn fy nghyfrol fy hun, sef hanes y gwersyll o safbwynt Cymreig.\nSeán O Mahony, awdur Frongoch: University of Freedom","brand":"Lyn Ebenezer","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51959385456904,"sku":"9781845275556","price":8.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275556.jpg?v=1770799216","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275556","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}