{"product_id":"9781845275310","title":"Pobol Enlli","description":"Merch prifathrawes gyntaf Enlli yw Gwenda Watson. Gadawodd yr ynys efo'i mam yn eneth ifanc yn 1938, ond gwnaeth ei chyfnod ar Enlli argraff barhaol arni ac mae'n dal i ail-fyw'r profiadau hynny. Treuliodd ei bywyd yn Llundain, Panama a Manceinion, ond ar ymweliad diweddar  â Phwllheli daeth  â llond sach o luniau, nodiadau ei mam, ysgrifau plentyndod ac atgofion gyda hi – a dyna wreiddyn y gyfrol hon.\nMae pob ysgrif yn gasgliad o straeon o wahanol gyfnodau o'r ugeinfed ganrif ar Enlli: mae yma hanesion gan ddisgynyddion am 'Nain Garreg Bach', 'Taid Dyno Goch', 'Brenin Enlli', 'Mari Cristin' a 'John Ty'n Lôn'; cafodd Gwynfor Jones a Guto Cabli eu geni a'u magu ar yr ynys yn y 1930au ac mae ganddynt drysorfa o atgofion plentyndod.\nDaeth eraill yno mewn cyfnod diweddarach: yr arlunydd Kim Atkinson; Gwydion, y gweithiwr stad; Emyr, gweithiwr ar y tai a'r gerddi; Dic a Llew, y gwirfoddolwyr a Colin, cychwr presennol yr ynys. Mae'u hatgofion yn cofnodi'r newidiadau a fu ym mywyd Enlli a hefyd yr her sy'n wynebu rheolwyr yr ynys i'w gwneud hi'n bosibl cael bywyd cynaliadwy yno yn y dyfodol.","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52294871089416,"sku":"9781845275310","price":8.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275310.jpg?v=1770799276","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275310","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}