{"product_id":"9781845275280","title":"Llyfrau Llafar Gwlad: 87. Llên Gwerin Meirion","description":"Mae bron i ddau can tudalen o gyfrol Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Blaenau Ffestiniog 1898 wedi’u neilltuo i ffrwyth gwaith buddugol un enillydd, sef ‘Casgliad o Lên Gwerin Meirion’ gan William Davies, Tal-y-bont, Ceredigion. Mae’n gamp cael gafael ar gopi o’r gyfrol honno erbyn hyn, ac os bydd un ar silff siop lyfrau ail-law, bydd yn costio dros £25. Y rheswm dros y pris anarferol hwnnw yw’r cyfoeth a gasglwyd ynghyd yn y traethawd arbennig hwn.\n\tDr John Rhŷs, Prifathro Coleg Iesu, Rhydychen ar y pryd, ac arbenigwr ar lên gwerin oedd y beirniad. Yn ei feirniadaeth (a draddodwyd yn Saesneg gyda llaw) mae’n canmol natur amrywiol y casgliad – llên gwerin am arwyr, seintiau a chewri; esboniadau poblogaidd ar enwau lleoedd; ymadroddion ac idiomau llafar gwlad; dywediadau tywydd; hen benillion; llysenwau lleoedd; chwedlau tylwyth teg a llawer mwy. Mae’n crynhoi’i sylwadau gyda chlod anarferol: ‘dyma un o’r casgliadau gorau o’i fath a ddarllenais erioed, ac os bydd yn cael ei gyhoeddi, bydd marchnad barod ar ei gyfer’.\n\tDyma argraffiad newydd o’r gwaith felly, y cyfan wedi’i olygu gan Gwyn Thomas, edmygydd arall o lafur mawr William Davies.","brand":"William Davies","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492613386504,"sku":"9781845275280","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275280.jpg?v=1770799276","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275280","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}