{"product_id":"9781845275273","title":"Llyfrau Llafar Gwlad: 88. Plu yn fy Nghap","description":"D. Picton Jones yw prif arbenigwr Cymru ar fridio a dangos dofednod. Ond does arno ddim angen enw llawn na chyfenw. Mae Pic yn ddigon.\n\nMewn gyrfa sy’n ymestyn dros 70 mlynedd, enillodd erbyn hyn tua phum mil o brif wobrau a bu’n beirniadu ym mhob un o brif sioeau adar gwledydd Prydain. Ond mae Pic o Lanwnnen yn llawer mwy na hynny. Mae’n glamp o gymeriad hefyd. Enillodd anrhydeddau lu. Beirniadodd yn ei dro ddofednod rai o aelodau’r Teulu Brenhinol gan wrthod gwobr gyntaf i’r Tywysog Charles. \n\nGreal Sanctaidd y bridwyr yw Cwpan Isherwood, sef prif wobr Sioe Ddofednod Prydain. Ac ym 1981, daeth Pic â’r wobr honno i Gymru am y tro cyntaf oll gyda’i geiliog Brahma. Hwn oedd uchafbwynt un a enillodd ei wobr gyntaf yn ddeg oed ac a ddechreuodd feirniadu yn bymtheg.","brand":"D. Picton Jones","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492628754696,"sku":"9781845275273","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275273.jpg?v=1770799276","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275273","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}