{"product_id":"9781845275167","title":"Stori Cymru - Hanesion a Baledi","description":"Mae hanes Cymru yn llawn straeon. Straeon doniol, trist, cyffrous, arwrol a hudolus. Eto un stori yw hi, mewn gwirionedd. O oes i oes, o fro i fro, gallwn weld yr un un stori drachefn a thrachefn drwy Gymru gyfan gan glymu’r cymoedd a’r dyffrynnoedd i gyd yn un wlad: gelyn yn ymosod; y Cymry yn gwrthsefyll ac yn y diwedd yn goroesi. Bu’r Rhufeiniaid, y Sacsoniaid, y Llychlynwyr, y Normaniaid a’r Prydeinwyr yn ceisio’n sgwario a’n creu yn dalaith ymylol i’w hymerodraethau mwy. Ond rydan ni yma’n annibynnol o hyd, ac yn adrodd yr hanes gyda balchder.\n\tEr ein bod yn wlad unedig drwy hyn i gyd, gallwn hefyd ddathlu’r gwahanol benodau bychain o fewn yr hanes mawr. Mae gan bob mynydd a llyn, castell a llan ei chwedl a’i hanesyn. Adrodd straeon y cyrion sy’n rhoi calon i wlad.\n\tMae’r baledi hyn yn mynd â ni i bob cwr o Gymru, yn dathlu’r holl gyfoeth amrywiol ac yn gweu’r cyfan yn un gyfrol.","brand":"Myrddin ap Dafydd","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52063853117704,"sku":"9781845275167","price":12.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275167.jpg?v=1770799344","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275167","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}