{"product_id":"9781845275044","title":"Sgyrsiau Noson Dda: Hiwmor Pobol Capel","description":"Pwy oedd Bull McCabe? Beth oedd natur y berthynas rhwng yr hen Frenhines Fictoria a'i 'chariadlanc' o India? Pa gysylltiad sydd rhwng T. H. Parry-Williams a Mistar Chips? Sut tybed y daeth un o ddramâu coll Cynan i'r fei? Pam defnyddio’r ymadrodd 'Ych a Fi' mewn cyswllt â Syr Thomas Parry o bawb? Ai'r gwir yw mai o ganol Iorddonen y codwyd y garreg honno? Beth oedd pwrpas yr ohebiaeth fu unwaith rhwng yr awdur a Jimmy Savile? Sut fath o hiwmor yw hiwmor pobol capal?\n\nCeir atebion i’r cwestiynau hyn a llawer mwy yn y gyfrol ddifyr hon sy’n gymysgedd o’r dwys ac o’r gwamal, o’r difri ac o’r digri. Caiff y darllenydd ei dal yn chwerthin yn uchel un munud ond ei orfodi i oedi’n ystyriol yn y nesa’. Daw’r cyfan unwaith eto o law yr awdur toreithiog o Borth-y-gest – y Monwysyn alltud brwd – y dywedwyd amdano gan Derec Llwyd Morgan ei fod yn ‘un o Gymreigwyr idiomatig gorau ei genhedlaeth’.","brand":"William Owen","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492637077768,"sku":"9781845275044","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845275044.jpg?v=1770799273","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845275044","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}