{"product_id":"9781845274887","title":"Nadolig yr Hen Deulu - Carolau Daniel Protheroe","description":"Cymro, cerddor a chyfansoddwr a ymfudodd i America yn 1886 oedd Daniel Protheroe. Ymysg ei ganeuon plant mae ‘Tu ôl i’r dorth mae’r blawd’, ‘Blodau’r Iesu’ a ‘Lili wen fach’.\n\nArferai gyfansoddi carolau a’u hargraffu ar gardiau Nadolig a anfonai at ei deulu yn ôl yng Nghymru rhwng 1907-33. Derbyniwyd y carolau canadwy hyn drwy law’r teulu a golygwyd y testunau gan Rhiain M. Phillips. Am y tro cyntaf felly, dyma nhw mewn print ar gyfer dathlu’r Nadolig dros gan mlynedd yn ddiweddarach.","brand":"Rhiain M. Phillips","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52477132767496,"sku":"9781845274887","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274887.jpg?v=1770799327","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274887","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}