{"product_id":"9781845274856","title":"Cam i'r Gorffennol - Safleoedd Archaeolegol yng Ngogledd Cymru","description":"Cyfrol fydd hon lle bydd yr awdur yn dewis oddeutu 20 o safleoedd o ddiddordeb archeolegol a \/ neu hanesyddol yng ngogledd Cymru ac yn cyflwyno ysgrif yn trin a thrafod pob un yn unigol. Safleoedd fydd rhain nad ydynt wedi cael fawr o sylw cyn hyn – perlau cudd gogledd Cymru fel petai. Ceir manylion am y cyd-destun hanesyddol a phwysigrwydd y safleoedd a’r creiriau a ddarganfuwyd yno i Gymru. \n\nI gyd-fynd â phob darn, bydd tudalen o gyfarwyddiadau ar sut i ymweld â’r safle (lle i barcio, pa lwybrau i’w dilyn, pethau eraill o ddiddordeb ar y daith) a map. Un o nodweddion y gyfrol fydd linc neu logo QR ar waelod bob tudalen o gyfarwyddiadau, fel y gall y darllenydd lawrlwytho’r cyfarwyddiadau a’r map i ffôn symudol. Golyga hyn na fydd rhaid i unrhyw un sy’n dymuno dilyn y daith wneud ffotocopi o’r manylion na mynd â’r llyfr gyda nhw.\n\nBwriad y gyfrol yw trafod archaeoleg gogledd Cymru mewn dull nad yw’n academaidd, a’r rheswm dros gadw’r ysgrifau a’r daith ar wahân yw galluogi pobl na allant ddilyn taith i werthfawrogi nodweddion y safle o gadair freichiau, fel petai.","brand":"Rhys Mwyn","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492609618184,"sku":"9781845274856","price":8.5,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274856.jpg?v=1770799270","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274856","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}