{"product_id":"9781845274764","title":"Cyfres Syniad Da: Canolfan Arddio Tyddyn Sachau","description":"‘Ew, lle cawsoch chi’r blodau lliwgar yna?’ \n\t‘O! am sioe o fasged grog! O ble daeth hi?’ \n\t‘Lle ga’ i datws hadyd d’wch?’ \n\t‘Wyddoch chi am rywle sy’n gwerthu coed fala \n         Cymreig?’ \n\nPeidiwch â phryderu – mae canolfan arddio deuluol a chyfeillgar hefo’r enw gogleisiol, Tyddyn Sachau, ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd all gyflenwi eich anghenion garddio yn ddidrafferth.\n\tO hedyn bach a blannwyd yn ôl yn 1947 gan y diweddar Alfred Ferris, tyfodd a blagurodd y busnes gyda chymorth ei fab, y diweddar Brian Ferris. \n\tBu sawl tro ar fyd ers y dyddiau cynnar a’r fenter fawr ddiweddaraf oedd sefydlu Caffi’r Tyddyn yn 2010. Eisoes profodd y caffi’n gyrchfan gyfleus i deuluoedd a ffrindiau gael cyfarfod am ginio blasus a rhesymol neu efallai am banad a chacan wrth roi’r byd yn ei le!\n\tMae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cynghorion a chyfarwyddiadau ynglŷn â beth sydd angen ei wneud yn yr ardd fis wrth fis am flwyddyn gron – a phwy’n well i roi cyngor garddio ichi na theulu Tyddyn Sachau!","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492636487944,"sku":"9781845274764","price":5.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274764.jpg?v=1770799269","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274764","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}