{"product_id":"9781845274696","title":"O Flaenau Tywi i Lannau Taf","description":"Ganwyd Cyril Hughes yn un o’r ffermdai mwyaf anghysbell yng Nghymru uwchlaw Ystrad Fflur. Y ffaith iddo gael ei fagu chwe milltir o’r pentref agosaf a olygodd na chychwynnodd yn yr ysgol nes oedd e’n chwech a hanner.\n\nBuan y gwnaeth iawn am hynny gan ddisgleirio mewn ysgol a choleg a graddio yn y Gyfraith. Twyll yw’r darlun allanol ohono fel gŵr llonydd a bodlon. Gydol ei fywyd bu’n brwydro yn erbyn annhegwch, yn rhyw lefain aflonydd yn y blawd cenedlaethol a chymdeithasol. Ag yntau’n dal yn grwt ysgol, arweiniodd brotest yn erbyn bwriad y Swyddfa Ryfel i feddiannu tir uwchben Tregaron. Yn y coleg bu ef a Gwilym Prys Davies yn allweddol mewn protest yn erbyn ymweliad gan y Gweinidog Rhyfel. \n\nGyda’i waith o fewn Urdd Gobaith Cymru – yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ac yna’n Gyfarwyddwr - bu’n ganolog ym mrwydr yr iaith a’r ymgyrch dros sianel deledu Gymraeg. Cawn ei farn am ran yr Urdd yn yr Arwisgo, a rwygodd y mudiad dros-dro. Cawn hanes helynt Pentre Ifan. Cawn rannu ei siom wedi canlyniadau Cyfrifiad 1971 a Refferendwm 1979. \n\nCawn hefyd yr ochr arall i’r geiniog. Llwyddiant sefydlu Cyngor yr Iaith a’r Mudiad Meithrin. Ei lawenydd pan etholwyd Y Tri Dafydd i San Steffan fis Medi 1974. Yn ein dyddiau ni bu’n rhan o’r ymgyrch dadleuol dros sefydlu melinau ynni gwynt yn ei henfro. Mae e mor ddi-ildio â’r fawnog â’i lluniodd.\n\nDrwy’r cyfan cawn ddarlun cynnes hefyd o Cyril y gwladwr, ynghyd â’r dinesydd diflino a’r eglwyswr ffyddlon. Mae ei bortreadau o’i Dad-cu, James Davies, John Bwlchffin a Joni Gwarhos yn fyw ac yn llawn hiwmor. Ydi, mae Cyril Hughes yn ymddangos yn ŵr llonydd a bodlon. Ac yn dilyn oes o wasanaethu bro a chenedl mae’n haeddu’r bodlonrwydd a’r llonyddwch hwnnw.\n\nLyn Ebenezer","brand":"J. Cyril Hughes","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492627771656,"sku":"9781845274696","price":8.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274696.jpg?v=1770799268","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274696","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}