{"product_id":"9781845274405","title":"Cwmwl dros y Cwm","description":"Ychydig cyn 8.30 y bore ar y 14 Hydref, 1913 bu farw 439 o ddynion a bechgyn mewn ffrwydrad ofnadwy yng nglofa Senghennydd.\n\nDim ond wyth oed oedd John Williams pan ddaeth o a'i deulu o un o bentrefi chwareli'r gogledd i fyw i Senghennydd yng nghymoedd y de. Edrychai ymlaen at ei ben-blwydd yn dair ar ddeg oed, pan fyddai'n cychwyn gweithio yn y pyllau glo gyda'i dad a'i ffrind o'r tŷ drws nesaf, Bili Dando.\n\nOnd doedd John ddim yn gwybod fod yna gwmwl du ar ei ffordd i Senghennydd – cwmwl a fyddai'n bwrw'i gysgod dros y cwm cyfan am byth.","brand":"Gareth F. Williams","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52418145648904,"sku":"9781845274405","price":5.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274405.jpg?v=1770799244","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274405","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}