{"product_id":"9781845274344","title":"Dan Ddylanwad","description":"Llofruddiwyd merch ifanc yng Nglan Morfa ddeng mlynedd ar hugain yn ôl. Mae’r un peth wedi digwydd eto.\n\nPan ddaw Elen Thomas i ddeall fod rhywun wedi bod yn torri i mewn i ffermdy unig ei modryb ym mherfeddion nos er mwyn ei dychryn, nid at yr heddlu mae hi’n troi. Meurig Morgan lwyddodd i ddatrys dirgelwch marwolaeth ei gŵr bum mlynedd ynghynt – ond y tro yma, fydd o’n tynnu blewyn o’r trwyn anghywir?\n\nDyma ddilyniant llawn twyll a dirgelwch i nofel gyffrous gyntaf John Alwyn Griffiths, Dan yr Wyneb.\n\n‘Dyma chwip o nofel, sy’n symud yn gyflym ond yn hyderus ac yn ddifyrrwch pur. Darllenwch, mwynhewch . . . a gweddïwch mai ffuglen yw’r cyfan.’\nAdolygiad o Dan yr Wyneb; Catrin Beard, gwales.com","brand":"John Alwyn Griffiths","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":51996696740104,"sku":"9781845274344","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274344.jpg?v=1770799319","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274344","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}