{"product_id":"9781845274320","title":"Blwyddyn Gron","description":"Casgliad o gerddi i’w defnyddio yng nghylch y tymhorau yw hwn. Mynd o ŵyl i ŵyl yw hanes y flwyddyn – ar ôl y Calan, daw Dydd Santes Dwynwen, y Grawys, Gŵyl Ddewi, Sul y Mamau yna’r Groglith a’r Pasg. Bydd angen cerdyn neu gyfarfodydd i ddathlu rhai o’r achlysuron – ac mae dewis o eiriau defnyddiol yn y gyfrol hon. Bydd thema ‘cariad’ Dydd Santes Dwynwen yn cynnig cerddi addas i’w darllen mewn seremoni briodasol yn ogystal.\n\nAiff y flwyddyn rhagddi – o Eisteddfod yr Urdd i wyliau’r haf ac i ddathliad cenedlaethol Dydd Glyndŵr. Ar ôl Diolchgarwch bydd Dygwyl y Meirw – ac yma ceir casgliad o gerddi addas i’w darllen mewn angladdau. Wedi hynny, daw Calan Gaeaf a bydd yr Adfent a’r Nadolig yn goleuo dyddiau bach duon y gaeaf yn fuan iawn.\n\nDyna’r gwyliau – a dyma’r geiriau. Rhowch y geiriau ar waith!","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492608700680,"sku":"9781845274320","price":12.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274320.jpg?v=1770799262","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274320","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}