{"product_id":"9781845274153","title":"Theatr a Chymdeithas - Gwreiddiau ac Amgylchfyd Theatr Felin-fach","description":"O’r theatrau ‘campws’ newydd a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au-80au, Theatr Felin-fach yn unig sydd wedi llwyddo i feithrin dolen dynn gyda’i chymuned a’i chenedl – gan feithrin nid yn unig cynulleidfa ond to ar ôl to o actorion, sgriptwyr, cynhyrchwyr a chwmniau. Mae’r Panto blynyddol yn sefydliad unigryw ynddo’i hun. Lledodd y theatr ei hesgyll i sawl maes pwysig arall megis Radio Ceredigion, ymgyrchoedd cymunedol (megis amddiffyn y ffatri gaws leol) a byd ffilm ac adloniant.\n\nOnd camgymeriad fyddai diffinio Theatr Felin-fach fel ‘theatr gymunedol’. Mae hynny yn awgrymu mai mewnblyg a lleol ydi cymeriad y theatr. Er ei bod yn amlwg wedi ei lleoli mewn lle arbennig ac mewn cymdeithas arbennig, safle penodol i edrych allan ar y byd yw Theatr Felin-fach o’r dechrau.\n\nNi fyddai hyn wedi digwydd heb weledigaeth ac arweiniad arbennig – a’r gwr a gyflwynodd y ddeubeth hynny i’r theatr yw awdur y gyfrol hon.\n\nMae’r gyfrol hon yn ddadansoddiad hanesyddol o gyd-destun y ddrama Gymraeg yng Ngheredigion yn arbennig, ond gan edrych ar y gymdeithas Gymraeg yn ei chyfanrwydd a hanes y theatr Gymraeg dros gyfnod helaeth o amser yn ogystal. Dyma wreiddiau Theatr Felin-fach. Drwy wneud hynny, cawn sylweddoli pwysigrwydd gwleidyddol y ddeinameg o ddrama o fewn ein cymdeithas arbennig ni.\n\nMae’n llyfr radical yn adrodd stori na chafodd ei hadrodd o’r blaen, gan geisio gwneud diwylliant penodol y Gymraeg yn weladwy ac yn ddealladwy.","brand":"Euros Lewis","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492609192200,"sku":"9781845274153","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845274153.jpg?v=1770799260","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845274153","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}