{"product_id":"9781845273774","title":"C'mon Midffîld - Stori Tîm o Walis","description":"Aeth bron i ugain mlynedd heibio er pan ddangoswyd yr olaf o gyfresi gwreiddiol C’mon Midffîld ar S4C, ond mae cwlt C’mon Midffîld yn fyw ac yn iach ac yn ennill tir. \n\nMewn tafarn yn yr Wyddgrug yn 1978 cynhaliwyd y sgwrs a fyddai’n arwain at greu C’mon Midffîld, ac o’r sgwrs honno tyfodd tair cyfres radio, pum cyfres deledu, dwy ffilm, sioe lwyfan, casét o ganeuon, rhaglen Nadolig arbennig, sgetshis, gemau pêl-droed go iawn, cwisiau tafarn a dynwarediadau lu. Mae pobl ifanc a phlant oedd heb eu geni pan oedd Arthur Picton, Wali Tomos, Tecs, Sandra, George a’r gweddill yn eu hanterth yn medru adrodd talpiau hir o’r sgriptiau ar eu cof. \n\nMae’r llyfr yma’n ddathliad o’r cyfan o safbwynt yr awduron a’r actorion − o’r tic-tacs cyntaf i’r asiffeta olaf.","brand":"Ioan Roberts","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492607815944,"sku":"9781845273774","price":12.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845273774.jpg?v=1770799253","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845273774","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}