{"product_id":"9781845273248","title":"Cerddi Lloerig: Byd Gwyrdd","description":"Nid troi’r byd yn wyrdd sydd ei angen, efallai – ond troi dyn yn wyrdd. Ydi hi’n amser i ni beidio â meddwl mai rhyw greaduriaid rhyfedd o blaned arall yw ‘dynion bychain gwyrdd’? Os na ddysgwn ni wneud hyn, fydd gennym ni ddim planed ar ôl! Mae’r cerddi yn y casgliad hwn yn wynebu’r peryglon sy’n bygwth bywyd ar y ddaear. Maent hefyd yn cynnig y llwybrau eraill y mae’n bosib i ni  eu dilyn. Ond gan mai cerddi ydyn nhw, maen nhw’n dweud eu neges mewn ffyrdd sy’n rhoi mwynhad i ni – ac weithiau’n tynnu gwên hyd yn oed. Pan ddowch ar draws penillion Gwyn Morgan sy’n disgrifio sut mae Dad yn arbed ynni drwy ostwng y gwres yn y tŷ, byddwch yn siŵr o fwynhau’r hiwmor!\n\nBu Dad yn troi y thermostat\nO ugain lawr i ddim\nMae Mam (i gadw’n dwym drwy’r dydd)\nYn gwisgo sgidiau chwim –\n\nMae’n rhedeg wrth lanhau y tŷ,\nMae’n rasio’n gynt a chynt,\nMae’n smwddio’n glou, yn hwfro’n wyllt – \nMae Mam bach mas o wynt!","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492606144776,"sku":"9781845273248","price":4.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845273248.jpg?v=1770799244","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845273248","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}