{"product_id":"9781845273002","title":"Llyfrau Llafar Gwlad: 79: Mynydd Parys - 'Lle Bendith? Lle Melltith Môn'","description":"Mae cenedlaethau o drigolion Amlwch wedi byw yng nghysgod a dringo Mynydd Parys, Môn – a pha ryfedd felly ei fod yn lle agos at galon cynifer o Fonwysion. Ar un adeg dyma’r gwaith prysuraf a phwysicaf drwy Gymru gyfan a dyma’r unig safle lle darganfuwyd olion o gyfnod y Rhufeiniaid, yr Oesoedd Canol ac o gyfnod y Chwyldro Diwydiannol yn yr un fan. \n\nYn y gloddfa fwyn hon y gweithiai Cadi Rondol a’r Hwntw Mawr, sy’n dal i gael eu cofio ar lafar gwlad yr ynys bron i dair canrif yn ddiweddarach. Heddiw, mae Mynydd Parys yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol a Hanesyddol Neilltuol ac yn ôl yr awdur, ‘does yna, mewn gwirionedd, unlle tebyg iddo ar wyneb y ddaear!’\n\nO grwydro llwybrau’r mynydd, mae atgofion ac adleisiau sŵn y gwaith i’w clywed gan gadw’n fyw y cof am y sawl fu’n gweithio yno a’u hymdrechion. Wedi’r darllen, ewch i grwydro’r llwybrau eich hunain – a phwy a ŵyr na fydd Cadi Rondol yno yn eich cyfarch!","brand":"J. Richard Williams","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492631900424,"sku":"9781845273002","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845273002.jpg?v=1770799241","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845273002","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}