{"product_id":"9781845272906","title":"Eisteddfod - Gŵyl Fawr y Cymry\/The Great Festival of Wales","description":"Mae gennym atgofion personol, efallai, sy’n ein clymu wrth feysydd yr Eisteddfodau yn y Faenol, Abertawe, Yr Wyddgrug, Caerdydd, Y Bala – ac, yn 2010, Glyn Ebwy. Mae’r meysydd diweddar hyn, rhwng 2005 a 2010, yn rhan o gwilt lliwgar a chyfoethog ac yn destun dathliad eleni gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ei ffurf fodern – fel gãyl fawr sy’n teithio o gwmpas Cymru – yn cofnodi’i phen-blwydd yn 150 oed.\n\tYn y gyfrol hon mae David Williams, ffotograffydd swyddogol yr ãyl ar lawer achlysur, wedi dethol o’i gasgliad o filoedd o luniau gan ddal hwyl a hiraeth y meysydd a’r llwyfannau diweddaraf – hwyl, lliw a mynegiant bywiog o holl amrywiaeth talentau’r genedl, a hefyd hiraeth am ambell wên ac wyneb na welwn eto. Rhwng y lluniau cawn gip ar hanes yr Eisteddfod, arwyddocâd ei seremonïau a rhyfeddod y gwaith o’i threfnu gan Lyn Ebenezer, un arall sy’n gyfarwydd iawn â’r Maes.","brand":"David Williams","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492633374984,"sku":"9781845272906","price":10.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845272906.jpg?v=1770799239","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845272906","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}