{"product_id":"9781845272401","title":"Nesa Peth i Ddim","description":"‘Cymru, aeth yn Saeson, ddaeth yn Gymry\ndrachefn ydi fy nheulu i . . .  ’\n\n‘Dwi’n dal i gysidro fy hun yn “hogyn o Eryri”,\nac nid yn “hogyn o Eifionydd” . . . ’\n\n‘Wilbert Lloyd Roberts . . . fu’r dylanwad mwya ar fy \nngyrfa broffesiynol . . . Wilbert agorodd y drws i mi . . . ’\n\n‘Rhyfeddu at ei phrydferthwch a’i bywiogrwydd, \nei rhywioldeb a’i ffraethineb . . . ’\n\nDydi hi ddim yn rhyfedd bod tudalennau’r hunangofiant hwn yn frith o frawddegau sy’n procio – mae’r awdur yn feistr ar fachu sylw ei gynulleidfa. Cawn ei stori’n llifo’n rhwydd o’i blentyndod, drwy gyfnod ei brentisiaeth ym myd y theatr a byd sgwennu at ei ‘ddeugain mlynedd’ o gartrefu yng Nghaerdydd – lle y mae yr un mor falch ohono â’i fro enedigol.\n\tYn britho drwy’r cyfan, cawn gefndir rhai o’i ddramâu a’i sgriptiau a goleuni newydd wrth ddyfynnu ohonynt. Mae drama yn stori Meic; mae stori’r ddrama yma hefyd. Mae Gwen – ei gariad, ei gymar a’i wraig am dri deg un o flynyddoedd – yn cael lle amlwg yn y gyfrol hefyd. Mae hwn yn ddathliad o fywyd y ddau ac yn gronicl o alar gãr ar ôl colli’r cariad hwnnw.","brand":"Meic Povey","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492621545736,"sku":"9781845272401","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845272401.jpg?v=1770799234","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845272401","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}