{"product_id":"9781845272371","title":"Prynu Lein Ddillad  Dyddiaduron 198092","description":"•\tMerched da sydd yn cadw dyddiadur – does gan ferched drwg ddim amser, yn ôl athronydd deallus o’r enw Tallulah Bankhead. Mae’n rhaid felly mai merch dda iawn yw Hafina Clwyd gan ei bod wedi cadw dyddiadur ers pan oedd yn fechan iawn, dan anogaeth ei mam a’i modryb hefyd fu’n gwneud yr un peth.\n\n•\tMae dyddiaduron Hafina Clwyd yn Y Wawr yn boblogaidd ac y mae hyd yn oed y dynion yn cyfaddef eu bod yn eu darllen. Y rhyfeddod yw bod yna gymaint o ddiddordeb mewn rhywbeth y mae hi’n ei wneud yn ei gwely bob nos. Sef llenwi ei dyddiadur.\n\n•\tYn y gyfrol hon ceir tipyn o hynt a helynt y blynyddoedd 1980-92 – dychwelyd i Gymru wedi cyfnod hir yn Llundain hyd at dranc Y Faner. Gwelir bod yma gronicl o flynyddoedd prysur a hapus ond gydag ambell i gwmwl du yn ymddangos yma ac acw – a’r cyfan yn cael ei gyflwyno yn ddi-flewyn-ar-dafod, fel y gellid disgwyl ganddi. \n\n•\tMae’r gweithgareddau’n amrywio o hel achau i fwrlwm y papur bro, o eisteddfota i wneud gradd allanol, o gathod i ddarlledu ac o deithiau tramor i gymdeithasu. Ond yn y pen draw dim ond un peth sy’n bwysig, sef ei theulu agos a gwasgaredig.","brand":"Hafina Clwyd","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492631736584,"sku":"9781845272371","price":8.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845272371.jpg?v=1770799233","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845272371","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}