{"product_id":"9781845272265","title":"Llyfrau Llafar Gwlad: 73. Melinau Môn","description":"‘I can think of few merrier spectacles than that of many windmills bickering together in a fresh breeze in a wooded country . . . ’ meddai Robert Louis Stevenson. Gallai’n hawdd fod wedi gweld y fath olygfa ym Môn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan fod yma, bryd hynny, fwy o felinau nag yn unrhyw ran arall o Gymru. Bu yma felinau dãr hefyd ac er i’r felin ddãr a’r felin wynt, yn eu cyfnod, fod yn rhannol gyfrifol am ‘ . . . ein bara beunyddiol . . . ’, erbyn hyn y mae’r mwyafrif helaeth wedi diflannu ond cyn iddynt fynd yn angof llwyr rhaid cofnodi hanes eu gorffennol.\n\tHeddiw, y mae ym Môn yr unig felin wynt weithredol yng Nghymru a nifer o ffermydd melinau gwynt modern ac fel y felin wynt enwog, y maent hwythau â’u lle yn hanes ein hynys a’u rhan i’w chwarae yn ei dyfodol.\n\tCyflwynir ym Melinau Môn hanes melina ar yr ynys gan obeithio y bydd y darllenydd yn cael ei ysgogi i ymweld â’r safleoedd ac ymchwilio’n ddyfnach fel bod yr agwedd hon o hanes lleol yr ynys yn cael ei amlygu a’i gadw ar gyfer y dyfodol.","brand":"J. Richard Williams","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492604637448,"sku":"9781845272265","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845272265.jpg?v=1770799233","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845272265","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}