{"product_id":"9781845272012","title":"Doctor Dail 2","description":"•\tMae’n rhyfeddol sut mae diddordeb mewn llysiau llesol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wrth i ni ddod yn fwyfwy ymwybodol o gynhesu byd-eang, o beryglon plaladdwyr a chwynladdwyr ac o ragoriaeth bwyd organig, mae diddordeb hefyd wedi cynyddu mewn planhigion meddyginiaethol. \n\n•\tEfallai fod nifer o’r planhigion y cyfeirir atynt yn y gyfrol hon yn ddieithr i ni, ond nid felly i’r oes o’r blaen. Rheidrwydd iddyn nhw oedd adnabod planhigion a gwybod sut i ddefnyddio’r planhigion hynny, er eu lles eu hunain a’u teulu.\n\n•\tDilyniant i Doctor Dail 1 yw’r gyfrol hon, ac unwaith eto mae cyfeiriad ynddi at rai blodau gwyllt a rhai o’r ardd. Ceir hefyd ambell i bennod sy’n sôn am blanhigion sydd ddim mor gyffredin i ni yng Nghymru, ond eto rydym yn gyfarwydd iawn a’u henwau.","brand":"Bethan Wyn Jones","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52354371911944,"sku":"9781845272012","price":5.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845272012.jpg?v=1770799341","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845272012","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}