{"product_id":"9781845271947","title":"Cynefin Gruff","description":"Mae gwreiddiau Gruff Ellis yn ddwfn iawn yn ei filltir sgwâr. Mae'n ddyn sydd wedi dod i adnabod ei gynefin drwy gerdded pob modfedd ohono o gopaon y Migneint i lawr i Bentrefoelas a’r tu hwnt. Dwi wedi cael y fraint o fynd i grwydro yng nghwmni Gruff lawer gwaith a bob tro, bydda i'n rhyfeddu at ei wybodaeth fanwl o bopeth ac am bawb.\n\tMae'n adnabod pob chwilen, pob blodyn, pob anifail a phob aderyn sydd erioed wedi troedio'r ardal hynod yma o ogledd Cymru a bydd ei lais awdurdodol yn disgrifio nid yn unig y bywyd gwyllt a'r tirlun o'n cwmpas ond hefyd y chwedlau a'r cymeriadau sy'n gysylltiedig â'r fro. Hyn i gyd wedi ei wasgu rhwng penillion di-ri ac ambell i gân; wedi'r cyfan, roedd Gruff yn aelod blaenllaw o Gôr Meibion Llangwm am flynyddoedd lawer!\n\tMae darllen Cynefin Gruff bron cystal â bod allan gyda'r dyn ei hun. Drwy gyd-weithrediad gyda'r ffotograffydd gwych, Derek Hughes o Gwm Eidda, mae'r wybodaeth a'r brwdfrydedd yn llifo ar y tudalennau hyn – fel y maen nhw’n llifo yn gyson yn ei ysgrifau misol ar fyd natur yn y papur bro, Yr Odyn.\n\nIolo Williams","brand":"Gruff Ellis","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492604211464,"sku":"9781845271947","price":6.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845271947.jpg?v=1770799229","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845271947","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}