{"product_id":"9781845271336","title":"Olrhain Hanes Bro a Theulu","description":"Amcan y gyfrol hon – y gyntaf o’i bath yn y Gymraeg – yw cynnig rhagarweiniad cyffredinol i’r prif ffynonellau sydd ar gael i’r sawl sy’n dymuno olrhain hanes bro a theulu yng Nghymru.\n\nCeir ymdriniaeth â’r cofnodion a grëwyd gan lywodraeth leol ar hyd y canrifoedd yn enwedig ar lefel y plwyf, yn eglwysig a sifil, ac edrychir ar dystiolaeth y gwahanol lysoedd oedd yn gweinyddu cyfiawnder.\n\nDangosir mor bwysig oedd herodraeth ar un adeg yng Nghymru ac fel y bu i dwf y stadau tirfeddiannol adael gwaddol amhrisiadwy o gofnodion i haneswyr cymunedol. \n\nTrafodir arwyddocâd y tirwedd ac adeiladau fel dogfennau yr un mor bwysig â’r deunydd llawysgrifol sydd wedi goroesi, boed y rheiny yn ddogfennau profeb neu ffynonellau morwrol. \n\nAstudir hefyd bwysigrwydd mapiau a darluniau a ffotograffau, hen faledi ffair a thystiolaeth cerrig beddau yn ogystal â ‘hanes llafar’, sef yr wybodaeth nad yw ar gael yn unman, yn aml, ond ar gof unigolion. \n\nYchwanegir at hyn ddeunydd printiedig amrywiol, gan gynnwys papurau newydd a’r Cyfrifiad ac arwyddocâd enwau lleoedd ac fe welir fod rhychwant eang o bynciau’n cael eu trafod yn y gyfrol hynod ddefnyddiol hon.","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492603162888,"sku":"9781845271336","price":12.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845271336.jpg?v=1770799221","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845271336","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}