{"product_id":"9781845271329","title":"Llythyrau'r Wladfa 18651945","description":"Yn y gyfrol hon cyhoeddir detholiad o lythyrau cyhoeddus a phersonol gan Wladfawyr a Chymry'r naill ochr i’r Iwerydd yn ystod 80 mlynedd gyntaf y Wladfa ym Mhatagonia. Cyhoeddir llawer o’r llythyrau yma am y tro cyntaf a’r gohebwyr yn amrywio o’r adnabyddus i’r distadl. Mae’r casgliad unigryw yma o lythyrau yn cwmpasu rhychwant eang o emosiynau ac yn arddangos y grefft syml ond oesol o ysgrifennu llythyr. Roedd y llythyr, fel cyfrwng, yn estyn dwylo dros y môr. Cawn gipolwg ar brofiadau rhyfeddol a theimladau dirdynnol y dynion a’r merched a fentrodd i Batagonia, ynghyd a hynt a helynt rhai o’u disgynyddion. Dyma dystiolaeth gan bobl a fu’n byw’r hanes rhyfeddol hwn. Dyma gorff o ohebiaeth wefreiddiol a ddaw â hanes y Wladfa yn fyw.\n\n“Pan dderbynia un lythyr, bydd y lliaws yn tyru tuag ato, gan hyderu y dichon fod ynddo air bach atynt, neu ychydig o newyddion cyffredin...”  \n(R.J. Berwyn, 15, Ionawr, 1872)\n\n“Yr wyf fi yn dal i weddio drosoch chi i gyd. Nid wyf yn eich anghofio ddydd na nos. Mae ein hiraeth ni, dy fam a minnau, yn mynd yn fwy am danoch y naill fis ar ol y llall, gan feddwl y bydd yn rhaid i ni fynd oddiyma heb eich gweled chwi byth mwy...”\n(Simon a Hannah Jones, 8, Ebrill, 1891)\n\n“Bu hen Gymru yn cysgu am ganrifoedd, ond mae’n deffro’n awr. Cael nap mae’r Wladfa, a rhaid i ninau fod yn gryf ac eofn i chwythu cyrn gwybodaeth a choethder i’w deffro...”\n (Eluned Morgan, 1894)","brand":"Mari Emlyn","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492628721928,"sku":"9781845271329","price":9.95,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845271329.jpg?v=1770799221","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845271329","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}