{"product_id":"9781845270766","title":"Hen Longau Sir Gaernarfon","description":"Heb unrhyw amheuaeth mae 'Hen Longau Sir Gaernarfon' yn un o glasuron ein hanes morwrol. Fe'i cyhoeddwyd mewn cyfnod pan nad oedd cyhoeddi ar hanes Cymru yn y Gymraeg na'r Saesneg yn ffasiynol, a phrin iawn oedd unrhyw gyhoeddiadau ar hanes morwrol Cymru. Mewn sawl ystyr mae'n llyfr arloesol - yn astudiaeth ranbarthol bwysig ond hefyd yn agoriad i sawl agwedd ar hanes morwrol ein cenedl, gan gynnwys hanes smyglwyr, pysgotwyr, porthladdoedd, llongau a llongwyr. Mewn un gyfrol llwyddodd David Thomas i ddangos fod profiadau morwrol y Cymry yn ganolog i ddealltwriaeth o'n gorffennol fel cenedl.","brand":"David Thomas","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492628394248,"sku":"9781845270766","price":12.0,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845270766.jpg?v=1770799215","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845270766","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}