{"product_id":"9781845120641","title":"Glyndŵr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyndŵr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern","description":"'Cenedl heb gof, cenedl heb galon.' Ac yn y cof hwnnw, y mae gan Owain Glyndwr le allweddol, heddiw fel erioed.\nWrth edrych yn ôl dros y canrifoedd, gwelwn y portread o Glynd?r yn newid yn syfrdanol o gyfnod i gyfnod. Bu'n fab darogan, yn fethiant amherthnasol, yn ddewin, yn arwr gwerin, yn rhyfelwr rhamantaidd, yn obaith tawel.\nMae'r gyfrol hon yn amlinellu’r sylw a dderbyniodd Glyndwr gan ein beirdd a'n llenorion o tua diwedd yr Oesoedd Canol ymlaen, gan fanylu'n arbennig ar flynyddoedd ei anterth fel eicon cenedlaethol o tua 1880 hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Cawn olwg hefyd ar ddatblygiad y ddrama Gymraeg, a lle Glyndwr yn y datblygiad hwnnw.\nGwelwn ddwy thema yn gwau trwy'r ymdriniaeth hon. Yn gyntaf, natur 'hanes' a'r ffordd y mae cenedl yn creu ac yn dehongli hanes i gyd-fynd â'i dyheadau. Yr ail thema yw natur gyfnewidiol 'Prydeindod' y Cymry o oes i oes.\nYm mhob cam yn hanes y portread o Owain Glyndwr, ailgreodd y Cymry'r gorffennol ar gyfer y presennol — er mwyn y dyfodol.","brand":"E. Wyn James","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":52492596117768,"sku":"9781845120641","price":9.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0945\/8519\/2712\/files\/9781845120641.jpg?v=1770799246","url":"https:\/\/www.ffolio.wales\/products\/9781845120641","provider":"ffolio.wales","version":"1.0","type":"link"}